Cartref > Digwyddiadau > Gweinidog iechyd yn agor labordy monitro dŵr gwa..

Gweinidog iechyd yn agor labordy monitro dŵr gwa..

Mae'r digwyddiad hwn wedi bod. 

Bu Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS, yn ymweld â'r brifysgol heddiw i agor yn swyddogol y cyfleuster ymchwil monitro dŵr gwastraff newydd yn adeilad Brambell. 

Mae'r cyfleuster o'r radd flaenaf yn galluogi gwyddonwyr i brofi dŵr i ganfod a goruchwylio firysau pathogenaidd dynol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn amgylcheddau dŵr croyw, morydol ac arfordirol, ac olrhain eu mynychder yn y gymuned trwy samplu dŵr gwastraff. 

Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol, dywedodd Eluned Morgan, “Roedd data dŵr gwastraff yn allweddol wrth helpu i ennill gwell dealltwriaeth o ledaeniad Covid-19 yng Nghymru. Mae'n parhau i roi data allweddol inni sy'n ein galluogi i olrhain y firws drwy ein cymunedau tra bod ffynonellau data eraill yn y Deyrnas Unedig, megis Arolwg Haint Covid-19 y Swyddfa Ystadegau Gwladol, wedi cael eu dileu. 

“Rwy’n falch iawn, drwy’r cyfleuster newydd gwych hwn a’r tîm yma, y gallwn gymhwyso’r hyn a ddysgwyd i gael mewnwelediad amhrisiadwy a fydd yn llywio ein hymateb i lawer o glefydau trosglwyddadwy eraill, nawr ac yn y dyfodol.” 

  • Grŵp o bobl gyda phlac llechen gyda llen goch
  • Grŵp o bobl mewn cotiau labordy yn gwisgo masgiau

Pob digwyddiad