Cartref > Ymchwil ac Arloesedd

Ymchwil ac Arloesedd

Prifysgol Bangor yn Lletya Canolfan i Ddatblygu Cenhedlaeth Newydd o Wyddonwyr Amgylcheddol 

Mae Prifysgol Bangor wedi cael ei henwi fel partner lletya ar gyfer un o bedair Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd i hybu arbenigedd y Deyrnas Unedig ym meysydd atal llifogydd, adfer gwlyptiroedd, mwynau critigol ac ansawdd dŵr croyw.  

Bydd y canolfannau a ariennir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yn addysgu'r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr PhD a fydd yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd mewn ymchwil, busnes a gwasanaeth cyhoeddus. Bydd pob canolfan yn cael ei chefnogi gan gyllid o £2.6 miliwn. 

Mae Prifysgol Bangor yn un o bum partner lletya ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Systemau Digidol Amser Real Dyfrsail ar gyfer Diogelu Iechyd yr Amgylchedd (Canolfan Hyfforddiant Doethurol RED-ALERT), dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon. 

dynes mewn labordy yn gwisgo mwgwd wyneb

dyn yn gwisgo siaced achub yn afon Conwy yn profi dŵr

Samplu Dŵr o Afon Conwy

Roedd yn bleser siarad ar Radio Cymru y bore yma i sôn am y gwaith o samplu dŵr yn afon Conwy yn ddiweddar.  

Bydd y fenter hon, a ariennir gan Dŵr Cymru, yn helpu ymchwilwyr o Brifysgol Bangor i ddilysu model data i asesu ansawdd dŵr afonydd 


Cynadleddau Prifysgol Caerfaddon

Yr Athro Davey Jones a’r Athro Dave Chadwick ym Mhrifysgol Caerfaddon ar gyfer agoriad y Ganolfan Ragoriaeth CWBE Systemau Rhybuddio Cynnar Dyfrsail ar gyfer Diogelu Iechyd a Chanolfan NERC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Systemau Digidol Amser Real Dyfrsail ar gyfer Diogelu Iechyd yr Amgylchedd, cynhadledd RED-ALERT Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol.

Mae'r ddau yn fentrau pwysig iawn wrth arddangos y gorau o'r hyn sydd gan epidemioleg ar sail dŵr gwastraff i'w gynnig wrth fynd i'r afael â heriau iechyd y cyhoedd a heriau amgylcheddol. 

poster collage llun prifysgol bangor

Logo Cefas Logo

Partneriaeth unigryw’n dod â thechnoleg gwyliadwriaeth dŵr gwastraff arloesol Verily i'r Deyrnas Unedig

Ym mis Medi 2024, ymunodd Verily â Phrifysgol Bangor i ehangu gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus ar sail dŵr gwastraff yn y Deyrnas Unedig. Gan adeiladu ar rôl Prifysgol Bangor fel arweinydd cenedlaethol yn ystod pandemig COVID-19, bydd y cydweithrediad yn defnyddio uwch dechnoleg profi Verily i olrhain amrywiaeth eang o bathogenau, gan gynnwys norofirws, ffliw, bacteria ymwrthedd gwrthficrobaidd, a SARS-CoV-2. Mae hyn yn nodi cam mawr cyntaf Verily i Ewrop, gan gryfhau safle Prifysgol Bangor fel canolfan o'r radd flaenaf ar gyfer epidemioleg ar sail dŵr gwastraff a darparu data cyflym o ansawdd uchel i gefnogi’r gwaith o ddiogelu iechyd y cyhoedd. 


Sut y gallai newid hinsawdd fod yn cynyddu eich siawns o ddal firws o garthion – astudiaeth newydd

Mae'r ymchwilydd Dr Jess Kevill yn archwilio sut mae newid hinsawdd yn cynyddu'r risg o bobl yn dod i gysylltiad â firysau sy'n gysylltiedig â charthion. Gyda stormydd glaw trymach a thonnau gwres yn llethu systemau carthffosiaeth, gall dŵr gwastraff heb ei drin gyrraedd afonydd, llynnoedd ac arfordiroedd—gan greu amodau lle mae firysau niweidiol megis norofirws ac enterofirws yn parhau ac yn lledaenu'n haws.

How climate change could be increasing your chance of catching a virus from sewage – new study (Saesneg yn unig ar gael)

Allbwn Sewage ar yr Arfordir

Mân-lun o raglen ddogfen Netflix Ein Cefnforoedd

Tom Rippeth yn Cefnogi Our Oceans

Tom Rippeth o Brifysgol Bangor yn gwasanaethu fel ymgynghorydd gwyddonol ar y gyfres ddogfen newydd ar Netflix, #OurOceans, a draethwyd gan Barack Obama. https://netflix.com/gb/title/81139969 


Project PATH-SAFE a Phrifysgol Bangor

Treialodd rhaglen PATH-SAFE y gwaith o ddatblygu rhwydwaith gwyliadwriaeth genedlaethol, gan ddefnyddio'r dechnoleg dilyniannodi DNA ddiweddaraf a samplu amgylcheddol, i wella’r broses o ganfod ac olrhain pathogenau dynol a gludir gan fwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd cysylltiedig drwy'r system bwyd-amaeth gyfan o'r fferm i'r fforc.  

map wedi'i amlygu o ogledd Cymru

diagram o dri chylch glas, gwyrdd a melyn

Project BlueAdapt yr Undeb Ewropeaidd a Phrifysgol Bangor

Rydym yn gweithio gyda phroject BlueAdapt i astudio sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar bathogenau a gludir gan ddŵr ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn dyfroedd arfordirol. Drwy ymchwilio i sut mae llygredd ac amgylcheddau sy'n newid yn dylanwadu ar ledaeniad ac esblygiad bacteria, firysau a phathogenau eraill, ein nod yw deall risgiau i iechyd dynol yn well ac arwain y gwaith o addasu effeithiol trwy bolisi ac arloesedd. 


WeWash

Mae project Dadansoddiad a Gwyliadwriaeth Amgylcheddol Dŵr Gwastraff Cymru (WeWASH) yn dwyn ynghyd arbenigedd Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Dŵr Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro lefelau SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff yng Nghymru, gan gyfrannu at ymdrechion gwyliadwriaeth COVID-19 Cymru a llywio mesurau'r Llywodraeth. 

rhywun yn gwisgo offer amddiffynnol profi dŵr