Cartref > Ein Gwyddoniaeth > Cefndir
Cefndir
Offeryn pwerus yw epidemioleg ar sail dŵr gwastraff a ddefnyddir i olrhain bygythiadau i iechyd y cyhoedd trwy fonitro amgylcheddol. Dechreuodd y gwaith hwn dros 15 mlynedd yn ôl, gyda chefnogaeth Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) yr UKRI, Llywodraeth Cymru, UKHSA, Defra a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC). Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn cefnogi project PathSafe, sy’n ymchwilio i ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) a gwasgariad firol o gyfleusterau gofal iechyd, ac yn lansio Project BlueAdapt, sy’n archwilio gwasgariad firol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn amgylcheddau arfordirol ac effaith newid hinsawdd yn y dyfodol.
Drwy gydweithrediadau â Phrifysgol Caerdydd, Arup, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac eraill, roedd epidemioleg ar sail dŵr gwastraff yn rhan o'r ymateb cenedlaethol i COVID-19 ac mae'n parhau i fynd i'r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a phryderon iechyd eraill.
Mae dyfodiad firysau megis SARS-CoV-2 (Covid-19), norofirws, a phathogenau sydd ag ymwrthedd gwrthficrobaidd yn cynrychioli bygythiadau sylweddol i iechyd y cyhoedd. Mae'r pathogenau hynny’n cael eu trosglwyddo trwy ddŵr a bwyd, yn aml trwy halogiad o garthion dynol. Mae achosion o firysau, megis norofirws, yn arwain at filiynau o afiechydon bob blwyddyn, gan achosi costau economaidd sylweddol ym maes gofal iechyd a cholli cynhyrchedd. Yn y cyfamser, rhagwelir y bydd ymwrthedd gwrthficrobaidd yn unig yn costio hyd at £100 triliwn i'r economi fyd-eang erbyn 2050, gan dynnu sylw at yr angen dybryd am strategaethau gwyliadwriaeth effeithiol.
Disgwylir i newid hinsawdd effeithio ymhellach ar fynychder clefydau a gludir gan ddŵr, gyda mwy o stormydd, llifogydd, a phoblogaeth sy’n cynyddu yn rhoi straen ychwanegol ar isadeiledd dŵr gwastraff. Wrth i firysau newydd ddod i'r amlwg, yn enwedig y rhai a all osgoi brechlynnau neu sy'n gysylltiedig â halogyddion amgylcheddol (e.e., rotafirws a firws papiloma dynol), mae strategaethau lliniaru yn hanfodol.
Mewn ymateb i'r heriau cynyddol hyn, mae epidemioleg ar sail dŵr gwastraff yn cynnig ateb effeithiol sy'n dod i'r amlwg o fonitro organebau pathogenaidd mewn dŵr gwastraff ac asesu'r risgiau y maent yn eu peri i iechyd y cyhoedd. Mae ein tîm, gyda chefnogaeth yr UKRI, cyrff y llywodraeth, y diwydiant dŵr a'r Undeb Ewropeaidd, yn canolbwyntio ar fireinio'r dulliau hynny i sicrhau eu bod yn darparu'r data cyflym a dibynadwy sydd ei angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Dulliau
I fesur poblogaethau firol mewn dŵr môr, dŵr croyw, gwaddodion, dŵr gwastraff sy’n mewnlifo ac yn all-lifo, a physgod cregyn. Rydym hefyd yn edrych ar ddefnyddio'r offer hwn i fonitro lledaeniad genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd ar yr un pryd.
(i) a yw firysau yn yr amgylchedd yn dal i fod yn heintus i bobl.
(ii) cyfradd lledaenu a gwasgaru firysau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd.
(iii) a all epidemioleg ar sail dŵr gwastraff gynorthwyo â gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd.
(iv) beth yw'r ffordd orau o gyfleu epidemioleg ar sail dŵr gwastraff i randdeiliaid.
I Ragfynegi:
(i) llif firysau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy weithfeydd dŵr gwastraff.
(ii) eu llif drwy rwydwaith yr afonydd a'r parth arfordirol.
(iii) effaith newid hinsawdd a chylchredau’r llanw ar lif pathogenau.
(iv) cyplysu'r modelau hyn â data tywydd a data clinigol er mwyn cael rhagfynegiad lled-amser real o grynodiadau pathogenau yn yr amgylchedd (ar gyfer rheoli risg yn weithredol).
Asesu nifer yr heintiau yn y gymuned (gwyliadwriaeth iechyd cyhoeddus) a chreu canllawiau i leihau'r risg o haint (e.e. dyfroedd ymdrochi, traethau a physgodfeydd pysgod cregyn) er mwyn diogelu iechyd dynol.



