Cartref > Gwobrau

Gwobrau

NERC Impact Awards 2023

Gwobr Effaith Gyffredinol 

Monitro ar sail dŵr gwastraff: dull cyfannol newydd ar gyfer gwyliadwriaeth gyhoeddus ac amgylcheddol 

Aelodau'r tîm: 

  • Professor Davey Jones, Bangor University
  • Dr Kata Farkas, Bangor University
  • Dr Shelagh Malham, Bangor University
  • Professor William Gaze, University of Exeter

Defnyddiwyd ymchwil dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor i fonitro mynychder COVID-19, gan gwmpasu 80% o boblogaeth y Deyrnas Unedig ar un adeg drwy fonitro dŵr gwastraff. Chwaraeodd y system fonitro rôl hollbwysig wrth lunio polisi cenedlaethol yn ystod y pandemig. 

Ers hynny mae wedi'i addasu i fesur llawer o afiechydon eraill sy'n peri pryder i iechyd y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. 

Gwobr NERC

Davey Jones yn derbyn NERC award

Davey Jones yn derbyn y Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am Addysg

Gwobrau Addysg y Frenhines Elizabeth 2023

Mae gwaith Prifysgol Bangor er budd iechyd y cyhoedd wedi cael ei gydnabod gyda chyflwyniad medal a thystysgrif Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ym Mhalas Buckingham. 

Mae Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan o drefn anrhydeddau’r Deyrnas Unedig ac fe'u dyfernir bob dwy flynedd gan y Sofran ar gyngor y Prif Weinidog yn dilyn proses adolygu annibynnol a thrylwyr a reolir gan The Royal Anniversary Trust, elusen annibynnol. 

Cafodd Prifysgol Bangor ei chydnabod am ei system newydd o ran gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd trwy ddadansoddi pathogenau niweidiol mewn dŵr gwastraff, a ddefnyddiwyd yn genedlaethol yn ystod y pandemig ac a addaswyd bellach i fesur amrywiol ddangosyddion iechyd cyhoeddus. 

Gwobr y Frenhines Elisabeth


Yr Athro Davey Jones wedi'i enwi ymhlith yr Ymchwilwyr a Ddyfynnir Amlaf yn y Byd

Mae'r Athro Davey Jones wedi cael ei enwi ymhlith yr 1% uchaf o ymchwilwyr a ddyfynnir amlaf yn y byd, fel un o ddim ond pedwar academydd o Brifysgol Bangor a gydnabyddir ar restr #HighlyCited Clarivate. 

Wrth adfyfyrio ynghylch y gydnabyddiaeth, dywedodd yr Athro Jones: “Mae ymddangos ar restr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf yn adlewyrchu ymroddiad y technegwyr, y myfyrwyr PhD a’r staff ôl-ddoethurol, yn ogystal â fy nghydweithwyr academaidd sydd wedi gweithio gyda mi i gynhyrchu amrywiaeth eang o allbynnau ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael effaith ystyrlon. Mae’r wobr hon i raddau helaeth yn bluen yn het y tîm. Cyflawni ISI Mynegai-H o dros 100 yw uchafbwynt y flwyddyn.” 

Rhestr Clarivate o Ymchwilwyr y Dyfynnir eu Gwaith Amlaf

Pedwar ymchwilydd o Brifysgol Bangor sydd ymhlith y rhai a ddyfynnwyd fwyaf