Cartref > Ein Gwyddoniaeth > Modelau
Modelau
Ers 2021, rydym wedi bod yn datblygu cyfres o fodelau i amlygu llif a gwasgariad norofirws, colifformau carthol, genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd a firysau eraill o weithfeydd trin dŵr gwastraff i'r amgylchedd, gan ddefnyddio CASCADE, TELEMAC, a DELFT3D fel ein prif lwyfannau modelu.
Yn dilyn arolwg dwys blwyddyn o hyd yn edrych ar ansawdd dŵr yn afon Conwy, ynghyd â data Gorlif Carthion Cyfun (CSO) a ddarparwyd gan Dŵr Cymru, ein hamcan o ran modelu yw efelychu'r cyfnod hwn a deall yn well y rheolaethau a'r amrywioldeb tymhorol mewn gwasgariad firol trwy'r continwwm afon-moryd-arfordir.
Rydym yn defnyddio'r model i ymchwilio i ddigwyddiadau eithafol neu senarios delfrydol a chynhyrchu mapiau risg gofodol i hysbysu rheolwyr ansawdd dŵr.
Rydym wedi datblygu model ansawdd dŵr morydol a dalgylchol cydraniad uchel i efelychu gwasgariad firol ym moryd afon Conwy a dyfroedd cyfagos gogledd-orllewin Cymru. Mae'r model hwn wedi datgelu bod systemau dalgylchol-morydol bach neu serth megis Conwy yn sensitif i gyfnodau o law trwm byrhoedlog, tra bod systemau mwy yn fwy ymatebol i ffryntiau tywydd parhaus. Mae'r canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at yr angen am dechnegau modelu a chydraniadau data amrywiol wrth uwchraddio'n genedlaethol.
Mae model TELEMAC-2D yn efelychu anterth firol damcaniaethol a ryddhawyd o Lanrwst a Betws-y-Coed yn ystod cyfnod o lif uchel mewn afon (Hydref 20, 2013), gan ddefnyddio data gofodol (~20m) ac amseryddol (~15 munud) cydraniad uchel. Mae wedi bod yn effeithiol mewn rhanbarthau bas a rhynglanwol, gyda grymoedd y llanw’n deillio o gronfa ddata llanw fyd-eang TPXO. Cesglir data bathymetreg o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys siartiau'r Morlys, arolygon aml-belydr, ac arolygon LIDAR.
Yma gallwn arsylwi rhyddhau a gwasgaru damcaniaethol firws o bwynt arllwysiad dŵr gwastraff i fyny afon Conwy a'i symudiad allan i fae Conwy. I ddechrau, mae'r model yn defnyddio hydrodynameg realistig ond data damcaniaethol (e.e. safle, amseriad a chrynodiad), a fydd yn cael eu diweddaru'n ddiweddarach gyda data gwirioneddol o’r maes wrth i'r ymchwil fynd rhagddo.
Mae'r model hwn yn olrhain sut mae gronynnau firws yn teithio o weithfeydd trin dŵr gwastraff ym Metws-y-Coed a Llanrwst i derfyn y llanw. Mae'n tybio pwls 30 munud o ronynnau firws yn mynd i mewn i afon sy’n ‘rhydd rhag firysau’. Amcangyfrifir crynodiadau firysau yn seiliedig ar fesuriadau o bob pwynt arllwysiad gweithfeydd trin dŵr gwastraff, gyda chrynodiadau wedi'u cofnodi yn GC L-1. Mae'r llifau arllwysiad wedi'u gosod ar 0.01 a 0.025 m3 s-1 a chrynodiadau firysau ar 200,000 GC L-1.
Mae llif afonydd yn seiliedig ar ddata hanesyddol, gydag arllwysiad yn Llanrwst o ~6 m3 s-1, ychydig islaw'r llif cyfartalog. Ar hyn o bryd, mae'r model yn canolbwyntio ar lorfudiant (symudiad gyda'r llif) ond bydd yn cynnwys yn ddiweddarach gwasgariad a phrosesu mewn-ffrwd wrth i fwy o ddata maes a data labordy ddod ar gael.
Yn ogystal, rydym wedi datblygu model halwynedd ar gyfer arfordir gogledd Cymru gan ddefnyddio DELFT3D, sy'n helpu i ragweld sut mae halwynedd yn dylanwadu ar wasgariad a pharhad firol a bacteriol yn y parth arfordirol.