Cartref > Ein Gwyddoniaeth

Ein Gwyddoniaeth

Mae firysau yn fygythiad mawr i iechyd dynol, gan achosi miliynau o heintiau a marwolaethau ledled y byd bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae ein dealltwriaeth o sut mae firysau pathogenaidd dynol yn ymddwyn yn yr amgylchedd yn parhau i fod yn gyfyngedig, gan rwystro ymdrechion i ddiogelu iechyd y cyhoedd.  

I fynd i'r afael â hyn, mae ein project yn canolbwyntio ar ddatblygu offer newydd ar gyfer canfod a monitro firysau pathogenaidd dynol mewn amgylcheddau dŵr gwastraff a dŵr croyw, ac amgylcheddau morydol ac arfordirol. Bydd yr offer hwn yn ein helpu i olrhain tarddiad, amrywiaeth a thynged poblogaethau firol dros amser ac ar draws gwahanol leoliadau. Byddant hefyd yn hanfodol wrth fesur cyfraddau haint cymunedol ar gyfer clefydau megis COVID-19, norofirws, a hepatitis A/E.  

Bydd y data a gesglir yn hysbysu’r gwaith o ddatblygu canllawiau newydd ar gyfer asesu risgiau haint mewn dyfroedd hamdden, traethau ac ardaloedd cynaeafu pysgod cregyn, gan helpu i amddiffyn iechyd dynol yn y pen draw. 

Amcanion y Project: 

  • Datblygu dulliau arloesol ar gyfer mesur firysau enterig mewn samplau amgylcheddol. 

  • Adnabod a mesur firysau niweidiol mewn amgylcheddau amrywiol, gan gynnwys dŵr, gwaddod, dŵr gwastraff a physgod cregyn. 

  • Asesu pa mor heintus yw’r firysau a ganfyddir. 

  • Modelu symudiad firysau mewn systemau morydol ac afonydd. 

  • Gwella asesiadau risg cyfredol ar gyfer firysau a gludir gan ddŵr. 

  • Monitro lefelau haint o fewn poblogaethau dynol. 

Am ragor o wybodaeth, llywiwch gan ddefnyddio'r tabiau uchod.