Cartref > Newyddion > Connaire Jenkins yn ymuno â VIRAQUA

Connaire Jenkins yn ymuno â VIRAQUA

Mae Connaire Jenkins, myfyriwr biocemeg o Brifysgol Surrey, wedi dechrau ei flwyddyn leoliad gyda'r grŵp Diogelwch Bwyd yn Cefas yn ddiweddar lle bydd yn cael profiad gwerthfawr o weithio mewn labordy ymchwil a labordy profi statudol. Mae Connaire yn un o'r nifer o fyfyrwyr rhagorol y mae Cefas yn eu croesawu bob blwyddyn mewn cydweithrediad â phrifysgolion ledled y Deyrnas Unedig. Yn ystod ei amser yma, bydd Connaire yn cynorthwyo Dr David Walker gyda rhai o agweddau ymchwil project Viraqua. Bydd Connaire yn canolbwyntio’n bennaf ar wella'r dull o ran teipio colifag F+. Mae'r dull presennol a ddefnyddir gan Cefas i bennu cyfrannau genogrwpiau colifag F+ hyfyw mewn samplau dŵr a physgod cregyn yn llafurus iawn ac mae potensial i wella'r dull yn fawr.


Pob eitem newyddion