Cartref > Newyddion > Cyhoeddiadau Newydd

Cyhoeddiadau Newydd

Dechreuodd y flwyddyn newydd gyda chyhoeddiad cyntaf project Viraqua gyda Kata Farkas, Francis Hassard, James McDonald, Shelagh Malham a Davey Jones i gyd yn gyd- awduron ar bapur yn Frontiers in Microbiology yn gwerthuso dulliau moleciwlaidd ar gyfer canfod a meintioli asidau niwclëig sy'n deillio o bathogenau mewn gwaddod.

Gellir dod o hyd i gyfeiriadau llawn ar ein tudalen cyhoeddiadau.

Yr wythnos ddiwethaf gwelwyd dau gyhoeddiad project newydd; mae David Lees yn gydawdur papur sy'n modelu ffactorau risg ar gyfer halogiad norofirws mewn dŵr pysgod cregyn. http://dx.doi.org/10.1016/j.ijfoodmicro.2016.10.028 tra bod Kata Farkas, Davey Jones, Shelagh Malham a James McDonald i gyd yn gyd-awduron papur adolygu sy'n mynd i'r afael â nifer a dosbarthiad bacteria a firysau enterig mewn gwaddodion arfordirol a morydol http://dx.doi.org/10.3389/fmicb.2016.01692

Gellir dod o hyd i gyfeiriadau llawn y ddau bapur ar ein tudalen cyhoeddiadau.

  • Dogfennaeth gan Frontiers in Microbiology
  • Dogfennaeth gan Elsevier

Pob eitem newyddion