Cartref > Newyddion > Cynhadledd PIG EMHH

Cynhadledd PIG EMHH

Yr wythnos diwethaf, aeth aelodau o Broject Viraqua i lawr i Watershed ym Mryste ar gyfer cyfarfod cyntaf Grŵp Integreiddio Rhaglen Microbioleg Amgylcheddol ac Iechyd Dynol (EMHH).

Mae Rhaglen EMHH yn ymgorffori; project VIRAQUA (olrhain firysau enterig drwy'r amgylchedd dyfrol), project RESERVOIR, nodi ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn afonydd ac asesu'r risgiau sy'n gysylltiedig â llygryddion penodol ac arferion rheoli tir megis gwaredu llaid carthion. Mae projectau RAMBIE ac ENDOTOX ill dau yn canolbwyntio ar fioaerosolau. Mae project RAMBIE yn datblygu offer uwch ar gyfer monitro Bioaerosolau yn gyflym mewn amgylcheddau trefol, amaethyddol a diwydiannol, tra bod ENDOTOX yn datblygu ffyrdd newydd o nodweddu a meintioli allyriadau endotocsin yn yr awyr mewn safleoedd compostio a ffermydd gan fodelu allyriadau a phatrymau gwasgariad.

Sefydlodd Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol y cysyniad o grŵp integreiddio rhaglenni yn y gobaith y byddai cysylltu rhai projectau yn arwain at rannu syniadau a, gobeithio, at arloesedd ymchwil yn y meysydd hynny. Roedd y gynhadledd yn llawn randdeiliaid, aelodau'r project a staff Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ac roedd yn gyfle da i rwydweithio.


Pob eitem newyddion