Cartref > Newyddion > Diweddariadau COVID

Diweddariadau COVID

I weld ein papurau diweddar gweler y dudalen Cyhoeddiadau.

Mawrth 2023: Mae Kata Farkas, Luke Hillary, Jamie Thorpe, David Walker, James Lowther, James McDonald, Shelagh Malham, a Davey Jones yn ennill Gwobr Papur Gorau Dulliau a Phrotocolau MDPI 2021 am Grynodiad a Mesur RNA SARS-CoV-2 mewn Dŵr Gwastraff Gan Ddefnyddio Crynodiad Seiliedig ar Bolyethylen Glycol a qRT-PCR. Llongyfarchiadau!

Mai 2022: Mae Kata yn cyflwyno yng nghyfarfod ISFEV 2020 (16-20 Mai) ar epidemioleg ar sail dŵr gwastraff COVID a monitro firysau a gludir gan ddŵr.

Mawrth 2022: Mae adroddiadau cenedlaethol o ran gwyliadwriaeth COVID-19 bellach ar gael i'w lawrlwytho (gweler y dudalen gyhoeddiadau). Mynychodd Kata gynhadledd IBMS 2022 i siarad am epidemioleg ar sail dŵr gwastraff COVID a monitro firysau a gludir gan ddŵr. Mae Luke Hillary yn cyrraedd diwedd ei daith PhD – gwaith anhygoel.

Chwefror 2022: Mae'r Illumina NextSeq wedi cyrraedd i wella dilyniannu firysau.

Ionawr 2022: Mae project BlueAdapt yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei gymeradwyo. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Will Gaze a Chaerwysg dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ymddygiad firol ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn dyfroedd croyw a'r parth arfordirol.

Rhagfyr 2021: Nid ydym yn croesawu dyfodiad omicron yn ystod gwyliau'r Nadolig. Hydref 2021: Ffrydio TapeStation a SeqStudio. Croeso hefyd i aelodau newydd y tîm

Medi 2021: Cymeradwywyd project Quebec-Bangor ar gyfer gwella cydweithrediad rhwng Canada a Chymru o ran gwyliadwriaeth ymwrthedd gwrthficrobaidd a firysau. Edrychwn ymlaen at yr arbrofion ar y cyd.

Awst 2021: Dechrau ar brojectau newydd ACE ar ddulliau gwell o ran gwyliadwriaeth COVID-19.

Mehefin 2021: Cam III o rwydwaith Cenedlaethol Cymru o ran gwyliadwriaeth COVID-19 wedi'i ariannu (gyda Phrifysgol Caerdydd, 2021-2022)

Mai 2021: Enillydd Gwobr Arloesi Diwydiant Dŵr Rhanbarthol Cymru am waith ar wyliadwriaeth COVID-19 (gyda Phrifysgol Caerdydd a Dŵr Cymru)

Chwefror 2021: Cam II o rwydwaith Cenedlaethol Cymru o ran gwyliadwriaeth COVID- 19 wedi'i ariannu (gyda Phrifysgol Caerdydd, 2021)

Tachwedd 2020: Agorwyd labordy gwyliadwriaeth COVID-19 trwybwn uchel newydd a ariennir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Nhŵr Alun Roberts.

Hydref 2020: Dechrau'r gwaith gwyliadwriaeth cenedlaethol gydag Asiantaeth yr Amgylchedd, Caerwysg

Awst 2020: Cam I o rwydwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer gwyliadwriaeth COVID-19 wedi'i ariannu (gyda Phrifysgol Caerdydd, 2020-2021)

Mai 2020: Dyfarnu grant Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar sefydlu rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer olrhain SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff yng Nghymru a Lloegr (gyda Phrifysgol Will Gaze Caerwysg) (2020-2021)

Mai 2020: Dyfarnu grant Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar sefydlu rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer olrhain SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff yng Nghymru a Lloegr (gydag Andrew Singer, UK CEH, Prifysgol Caerfaddon, Newcastle, Caeredin a LSHTM) (2020-2021)

Mawrth 2020: Dyfarnu grant NERC-URGENCY ar olrhain SARS-CoV-2 mewn dŵr gwastraff (2020)


Pob eitem newyddion