Cartref > Newyddion > Gŵyl Wyddoniaeth Bangor

Gŵyl Wyddoniaeth Bangor

gynhaliwyd gan Brifysgol Bangor fel rhan o Wythnos Wyddoniaeth Prydain. Roedd gennym nifer o weithgareddau ymarferol ar gael gan gynnwys peintio pathogenau a phryfed mewn cregyn bygwlad, a ddefnyddiwyd gennym i esbonio beth oedd firws, sut y gallant symud drwy'r amgylchedd a sut y gallai'r rhain gronni o fewn pysgod cregyn. Roedd y stondin yn cynnig ystod eang o wybodaeth i deuluoedd ac ymchwilwyr proffesiynol sydd â diddordeb yn y project ynglŷn â chefndir y project, ei amcanion, a'r hyn rydym wedi'i gyflawni hyd yn hyn, ar gael yn ddwyieithog ac ar daflenni gwybodaeth i'w cymryd adref. Daeth presenoldeb da iawn i'r digwyddiad gyda dros 1100 o fynychwyr yn cymryd rhan yn yr ŵyl. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio'r digwyddiad fel cyfle i gydweithio ar brojectau a gwahodd Jennifer Holden, prif ymchwilydd ar y project RESERVOIRS i ddod ac ymuno yng ngweithgareddau'r dydd. Mae project RESERVOIRS, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Warwick, hefyd yn seiliedig ar ddŵr ac mae'n ymchwilio i'r ffactorau sy'n achosi Ymwrthedd Gwrthficrobaidd o fewn dalgylch afon Tafwys, sy'n cyd-fynd yn berffaith â thema 'Bydoedd Cudd'. Roedd cyfranogwyr a oedd yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau yn cael tystysgrif 'Microbiolegydd Ifanc' gan y ddau brosjct, ac mae tystiolaeth yn awgrymu nad yw rhywun byth yn rhy hen i fod yn ficrobiolegydd ifanc.


Pob eitem newyddion