Cartref > Newyddion > Metagenomeg - Haf 2017

Metagenomeg - Haf 2017

Gan Dr Kata Farkas, Prifysgol Bangor a Dr Evelien Adriaenssens, Prifysgol Lerpwl

Mae defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar metafiromeg yn caniatáu inni adnabod rhywogaethau newydd o firysau a straenau pathogenaidd heb unrhyw wybodaeth am y targed. Yn y dull newydd hwn, mae gwybodaeth enetig am bob firws mewn cymuned yn cael ei echdynnu a'i hymchwilio gyda dilyniannu'r genhedlaeth nesaf. Yn ein set ddata beilot, rydym wedi dod o hyd i straen norofirws newydd, rotafirysau a picobirafirysau amrywiol a darnau o firysau enterig dynol eraill (astrofirws, hepatofirws) mewn samplau dŵr gwastraff a ddeilliodd o weithfeydd trin dŵr gwastraff Llanrwst (Conwy, Gogledd Cymru). Cadarnhaodd y canlyniadau rhagarweiniol hyn ymhellach ddefnyddioldeb metafiromeg mewn astudiaethau amgylcheddol ac iechyd y cyhoedd. Ym mis Mehefin cynhaliwyd proses samplu cynhwysfawr yn ardal Conwy lle casglwyd symiau mawr o waddod (200g), pysgod cregyn (10 kg), dŵr gwastraff (1L) a dŵr wyneb (200L/safle). Roedd y dulliau a ddatblygwyd yn ystod project Viraqua yn caniatáu crynodiad o 10- 10000 gwaith y samplau, yn dibynnu ar y math o sampl. Bydd y crynodiadau hyn wedyn yn cael eu dadansoddi'n fetafiromig i nodi firysau pathogenaidd hysbys neu newydd ac i olrhain eu presenoldeb a'u hamrywiaeth ym masn Afon Conwy.


Pob eitem newyddion