Cartref > Newyddion > Mini-berfeddion yn cael eu defnyddio ar gyfer...

Mini-berfeddion yn cael eu defnyddio ar gyfer...

 

Mini-berfeddion yn cael eu defnyddio ar gyfer twf norofirws

Gan Dr Myra Hosmillo, Prifysgol Caergrawnt

Norofirws dynol, a elwir yn "glefyd dau fwced," yw'r pathogen gastroberfeddol firol mwyaf blaenllaw ledled y byd ac mae’n achosi dolur rhydd a chwydu. Mae'n heintus iawn a dim ond cyn lleied â 18 gronyn firol sydd ei angen i heintio person arall. Er bod haint norofirws fel arfer yn acíwt ac yn hunangyfyngedig, gall y clefyd fod yn gronig ymysg plant a chleifion sydd ag imiwnedd gwan, a gall bara o ddyddiau i fisoedd. Er gwaethaf y rhain, nid oes brechlyn na chyffuriau ar gael i atal na gwella haint norofirws. Am dros 40 mlynedd ers ei ddarganfod yn 1972, roedd astudio bioleg norofirws dynol yn heriol oherwydd ein hanallu i dyfu'r firws yn y labordy. Ym mis Medi 2016, cafodd norofirws dynol ei feithrin yn llwyddiannus am y tro cyntaf gan ddefnyddio system organoid tri dimensiwn (3D) sy'n deillio o gelloedd bonyn. Organau bach yw organoidau neu enteroidau y gellir eu tyfu yn y labordy sy'n debyg i feinweoedd o'r corff. Gellir eu cynhyrchu gan ddefnyddio celloedd o'r llygad, y perfedd, yr iau, yr aren, y pancreas, y prostad, yr ysgyfaint, y fron a'r coluddyn. Mae organoidau yn fodel da ar gyfer astudio clefydau heintus gan gynnwys norofirysau. Mae darganfyddiad system diwylliant organoid yn gam mawr ymlaen o ran astudio norofirws dynol ac wrth ddatblygu cyffuriau i atal a thrin haint norofirws. Rydym wedi sefydlu'r system diwylliant organoid ar gyfer norofirws, yma yng Nghaergrawnt. Byddwn yn ei ddefnyddio fel rhan o broject VIRAQUA i archwilio parhad norofirws yn yr amgylchedd.


Pob eitem newyddion