Symposiwm Risg Microbiolegol Amgylcheddol NERC-EMHH
14 Mawrth 2018 | Canolfan Addysg a'r Brif Neuadd, Cymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Llundain
Mae projectau VIRAQUA a RESERVOIRS yn ymuno i ddarparu fforwm i drafod firysau a bacteria ymwrthedd gwrthficrobaidd yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Bydd ymchwilwyr blaenllaw o'r byd academaidd a diwydiant yn ymgynnull i drafod y wybodaeth a'r syniadaeth ddiweddaraf ar reoli risg firol a bacteria/genynnau ymwrthedd gwrthficrobaidd ar ffurf prif anerchiadau a chyflwyniadau byr i gychwyn trafodaethau ac i gyfnewid syniadau ar wyddoniaeth, risg ac opsiynau polisi yn y dyfodol. Ein nod yw dangos i randdeiliaid sut y gellir gweithredu canfyddiadau ymchwil o'r rhaglen ac arwain trafodaethau i benderfynu ar y pwyslais nesaf ar gyfer y genhedlaeth nesaf o raglenni ymchwil.
Gweledigaeth rhaglen Microbioleg Amgylcheddol ac Iechyd Dynol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol yw darparu’r sylfaen dystiolaeth wyddonol i alluogi adnabod micro-organebau pathogenaidd a deunydd biolegol yn yr amgylchedd yn gyflym ac effeithlon. Mae VIRAQUA a RESERVOIRS yn adrodd ar thema ddyfrol y rhaglen.
Mae niferoedd yn gyfyngedig, felly cysylltwch ag Emma Green i archebu eich lle yn y symposiwm