Gofynnwyd i’n myfyriwr intern israddedig Harry Riley am ei brofiadau o weithio gyda thîm VIRAQUA:
“Rydw i wedi cael amser da iawn yn gweithio ar broject VIRAQUA dros y mis diwethaf, mae wedi rhoi profiad gwych i mi o waith labordy a maes ac mae wedi gwneud i mi feddwl mwy am sut mae firysau’n cael eu trosglwyddo ledled yr amgylchedd! Mae'r profiad hwn wedi ennyn fy niddordeb yn y maes hwn, a byddaf yn sicr yn ystyried hyn fel llwybr gyrfa posibl. Byddaf yn bendant yn awyddus i wneud hyn eto!”
