Cartref > Newyddion > Ymweliad trawsiwerydd

Ymweliad trawsiwerydd

Mae'r defnydd o golifag (firysau sy'n heintio bacteria E. coli) yn cael ei dderbyn yn eang fel dangosydd addas o halogiad firws enterig mewn samplau amgylcheddol gan gynnwys dŵr a physgod cregyn deuglawr. Mae Cefas yn defnyddio colifag fel dirprwy o ran heintusrwydd norofirws, ac yn aml yn mesur lefelau colifagau mewn cnawd pysgod cregyn deuglawr at ddibenion ymchwil. Yn ystod taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau i fynychu'r Gynhadledd Microbioleg Dŵr Ryngwladol ym mis Mai eleni, manteisiais ar y cyfle i ymweld â labordai'r Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yn Ynys Dauphin, Alabama lle mae'r Capten Kevin Calci wedi datblygu dull amgen o fesur colifag mewn cnawd pysgod cregyn deuglawr. Defnyddir y dull hwn yn eang yn yr Unol Daleithiau bellach fel rhan o'r rhaglen glanweithdra pysgod cregyn genedlaethol. Cefais weld dull sydd wedi'i symleiddio i'w ddefnyddio wrth brofi pysgod cregyn yn rheolaidd mewn amgylchedd trwybwn canolig ar fy nhaith i Ynys Dauphin, tebyg i’r hyn sy’n digwydd yn Cefas. Gobeithir y bydd y gwersi a ddysgwyd o'r ymweliad labordy hwn yn caniatáu i Cefas ddatblygu dull cadarn i brofi colifagau i'w gymhwyso i brofi pysgod cregyn yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Mae'r daith hon hefyd wedi ein helpu i adeiladu ar ein perthynas waith bresennol gyda'n partneriaid draw yn yr Unol Daleithiau.


Pob eitem newyddion